harp

 

cerddoriaeth

Y DELYN YNG NGHYMRU
Mae modd olrhain hanes y delyn yng Nghymru i'r 9fed a'r 10fed ganrif, ond math o grwth oedd yr offeryn yr adeg honno.
Yn ystod yr Oesoedd Canol datblygodd y delyn i fod yn offeryn pum troedfedd o faint a chanddi tua deg ar hugain o dannau. Yn wahanol i'r arfer heddiw, defnyddid yr ewinedd yn ogystal a blaenau'r bysedd i ganu'r delyn a gorffwysai'r offeryn ar yr ysgwydd chwith yn lle'r dde. 'Roedd cyfeilio i'r ddawns ac i farddoniaeth yn un o brif swyddogaethau'r telynor yn y cyfnod hwnnw.
Tua diwedd y 17eg ganrif daeth y delyn deir-res o'r Eidal i Gymru ac fe fu'n offeryn poblogaidd iawn. 'Roedd ganddi dair rhes o dannau, gyda'r ddwy res allanol wedi eu cyweirio i'r raddfa ddeiatonig, a'r rhes ganol i'r nodau cromatig ac fe'i cenid ar yr ysgwydd chwith.
Yn 1810 datblygodd Sebastian Erard o Baris y delyn bedal ac yn raddol defnyddiwyd llai a llai o'r deir-res. Canai sawl telynor y ddau offeryn; dynion fel John Parry (ddall) a John Thomas (Pencerdd Gwalia).
Noddid nifer o delynorion Cymreig y 18fed ganrif gan yr uchelwyr gyda nawdd Llys Llanofer yng Ngwent yn un o'r rhai amlycaf a'r olaf i ollwng y traddodiad o gael telynor yn y llys, ond wrth i'r gefnogaeth ariannol ddirywio, yna yn y gwestai a'r tafarndai y caent eu cynhaliaeth, gan amlaf fel cyfeiliant i ddawnsio a chanu penillion.Rhoid lle arbennig iddi wrth gwrs yn yr Eisteddfodau.
Bethan Roberts

band