CLOCSIO
Dawnsio unigol, wrth gwrs, yw Dawns y Glocsen, a'i gwreiddiau'n ddwfn yn y llofft stabal, y ffair a'r dafarn lle byddai'r dawnswyr am y gorau yn ceisio perfformio camau neu driciau acrobatig na allai neb arall eu dynwared. Mae'r elfen gystadleuol yn amlwg ynddi felly, ond geilw am fwy na meistrolaeth traed yn unig; mae hi'n ddawns ymffrostgar, orchestol, a rhaid i holl bersonoliaeth y dawnsiwr gael ei gyfleu i'r gynulleidfa neu bydd y cwbwl yn ymddangos yn fecanyddol a di-enaid. Hon yw'r unig ddawns Gymreig efo traddodiad di-dor a feddwn, ac mae rhai pobl yn dal i gofio gweld dynion fel Caradog Puw a Hywel Wood yn clocsio yn nyddiau cynnar yr adfywiad dawnsio yn y 40au.
Tyfodd y ddawns yn ei phoblogrwydd yn y 70au a chefais flynyddoedd o bleser yn dysgu plant i glocsio yn ardal Bae Colwyn pan oeddwn yn athro yno. Bu nifer ohonynt yn ddigon ffodus i ennill fel unigolion yn yr eisteddfodau - ond gan mai fel grwp y dysgwn hwy, naturiol oedd inni weithiau berfformio fel parti o glocswyr, ac ambell waith, dawnsiwn innau fel unigolyn a'r plant fel corws o'm cwmpas. (Dyma wnaethom yn Llangollen yn 1969 pan enillom y wobr gyntaf.) Yn ddiweddarach daeth cystadleuaeth i ddeuawd stepio yn un o eisteddfodau'r Urdd a chafwyd cyfle i ail-greu awyrgylch y llofft stabal a'r dafarn ar lwyfan drwy gael y naill ddawnsiwr i gystadlu yn erbyn y llall. Datblygodd wedyn i fod yn ddawns i ddau neu ddwy , yn wir gosodai thema, a dyma ddechrau cyfnod newydd ar ddawnsio step, oherwydd galluogai hyn i'r dawnswyr gyfleu stori.
O dipyn i beth ychwanegwyd rhagor o stepwyr i ddweud y stori ac i ddatblygu'r thema ac mae Dawnswyr Nantgarw, yn sicr wedi rhoi arweiniad yn y maes hwn. Hir y pery'n y cof eu perfformiad o'r "Chwarelwyr" a'r sgit odidog honno ar Gerdd Dant a ddangosai fod modd dod a hiwmor i mewn i'n perfformiadau.
Bellach, mae'r ddawns stepio i grwp wedi hen ennill ei phlwyf yn ein hetifeddiaeth, ac yn gystadleuaeth sy'n rhoi cyfle i stepwyr a hyfforddwyr i ddangos eu dawn a'u dychymyg. Mae'r grefft o stepio wedi ei meistroli i'r fath raddau, a'r dawnswyr wedi aeddfedu cymaint fel eu bod yn gallu arbrofi i bob cyfeiriad bron - a gwthio'r ffiniau a datblygu fel y dylai pob traddodiad byw ei wneud.

dawnsfeydd

DAWNSFEYDD NANTGARW
Dawns Flodau Nantgarw, Gwyl Ifan, Ffair Caerffili, Dawns y Pelau, Ceiliog y Rhedyn, Rali Twm Sion,
Morfa Rhuddlan, Dawns y Marchog, Y Gaseg Eira. - Galwyd y casgliad yma i gof gan Margaretta Thomas ac fe'u nodwyd gan ei merch y diweddar Dr. Ceinwen Thomas. Dawnsfeydd yw'r rhain a welodd hi fel merch fechan yn cael eu dawnsio yn y ffeiriau a'r tafarndai a'r gwyliau a ddathlwyd cyn y diwygiad crefyddol ar droad y ganrif. Ar wahan i ddwy ddawns unigol, sef dawns y Marchog a Morfa Rhuddlan, dawnsfeydd ffair, llawn asbri ac egniol ydynt, er, mae'n sicr os edrychwn yn ddyfnach mae olion Morris a defodol i'w gweld arnynt. Hefyd rhaid cofio pan oedd Margaretta yn ferch fach roedd yn arferiad i ddodi llawr pren yn y ffeiriau, ei gau a rhaff ac yno y doi dynion a merched i ddawnsio a chasglu arian gan y gwylwyr.

Y GLOCSEN
Cred haneswyr erbyn heddiw mai o gyfnod y Rhufeiniad y datblygodd y glocsen.Yno cafodd ei defnyddio fel esgid yn y baddonau gadwai draed y gwyr a'r gwragedd rhag y teils neu'r marmor twym.
Cafwyd hyd i fath ar glocsen mewn beddrod brenin Eidalaidd mor bell yn ol a'r 10fed ganrif er mae'n sicr nad oedd yn ddim byd tebyg i beth alwn ni'n glocsie heddiw.Ar hyd y canrifoedd mae'r glocsen wedi bod yn symbol o'r dosbarth gweithiol a hynny am nad yw wedi talu sylw i ffasiwn ac yn esgid gwbl ymarferol - yn wir roedd gan y rhan fwyaf o Gymry ar ddechrau'r ganrif hon eu clocsie gwaith a'u sgidie Sul.Roedd steil a siap y glocsen a'r math o bren a ddefnyddid yn dibynnu ar waith y gwisgwr.Byddai gan weithiwr yn gweithio ar y cei, neu gyda dwr, ddarn o ledr dros y garai a glowr bar a sawdl isel rhag ofn y cai ei ddal ac y byddai'n hawdd llithro allan ohonynt ac yn sicr byddent a gwadn drwchus ar loriau poeth y gweithfeydd tin a dur oherwydd fod pren yn drawsgludwr gwres gwael. Yma yng Nhymru broliai pobl Ceredigion mai pren sycamor a ddefnyddid i wneud eu clocsiau hwy tra yn yr Alban defnyddir pren bedw.Dywedid fod bedw yn addas ar gyfer gwaith dan ddaear ac taw dyna pam fod clocsie glowyr Cumbria, Efrog a Morgannwg yn cael eu gwneud gyda'r goeden hon.Gyda'r chwyldro diwydiannol a mwy o ffatrioedd yn troi i beiriannau daeth y gost o wneud sgidiau i lawr ac o'r herwydd trodd mwy a mwy o bobl oddiwrth y clocsiau diolwg at esgidiau lledr.Yn 1901 recordiwyd fod 6276 o wneuthurwyr clocsiau yng Nghymru a Lloegr erbyn1983 dim ond 40 oedd wrthi a'r rhan fwyaf o'r rhain yn ifanc a newydd i'r grefft.Ond mae llygedyn o obaith eto - oherwydd dywedir fod ty ffasiwn Gucci eleni am gynhyrchu cyfres arbennig o esgidiau gyda gwadn bren. Pwy a wyr efallai mai step y glocsen fydd dawns y ddegawd nesaf!

clocsio