NANTGARW • EIN HARDAL
Mae ein hardal yn fyd enwog, nid am ei dawnsio efallai ond am ei chrochenwaith.Mae crochendy Nantgarw newydd ei adnewyddu a'i agor fel amgueddfa a chanolfan i arddangos y darnau o borselin prin sy'n werthfarwr dros ben.Ond o fewn i Gymru a'r byd dawnsio gwerin mae Nantgarw yn enwog am reswm arall hefyd achos oddi yno y daeth un o'r casgliadau mwyaf gwerthfawr o ddawnsfeydd gwerin.
Pentref bychan iawn yw Nantgarw sy'n swatio ar lannau'r afon Taf wrth draed mynyddoedd y Garth a Chaerffili rhyw bum milltir i'r gogledd o Gaerdydd a saith milltir i'r de o Bontypridd a chymoedd glofaol y Rhondda.Ardal ddiwydiannol yw Nantgarw ers troad y ganrif pan ddaeth gweithwyr o bob rhan o'r wlad i dyllu'r glo.Trwyddo rhedai'r gamlas ac yn ddiweddarach y brif lein rheilffordd gludai'r glo a'r dur o 'r Rhondda a Merthyr. Bryd hynny Cymraeg oedd iaith yr ardal a Chymreig oedd ei thraddododiadau.
Ar droad y ganrif hefyd aeth merch ifanc o'r enw Catherine Margaretta Thomas gyda'i mamgu i ffeiriau cyfagos Caerffili a Thongwynlais. Yno gwelodd ddawnswyr a wnaeth gryn argraff arni. Yn ystod y diwygiadau crefyddol a ddilynodd daeth terfyn ar y dawnsfeydd, ond diolch i Margaretta a'i chof rhyfeddol mae gennym heddiw gasgliad o ddawnsfeydd unigryw Nantagarw.

EIN TRADDODIADAU A'N IAITH
Cymraeg yw iaith swyddogol y grwp, cyfrwng y dysgu a'r cymdeithasu. Er eu bod bellach wedi ymgartrefu yn yr ardal, mae aelodau'r grwp yn dod yn wreiddiol o bob rhan o'r wlad ac wedi dod a'u traddodiadau arbennig gyda hwy i'r ardal hon.
Gan fod dawnsio yn ei hanfod yn fywiog a lliwgar mae'r traddodiadau a gysylltir ag ef hefyd yn rhai bywiog a nid yn unig yn rhoi mwynhad i'r rhai sy'n cymryd rhan ond yn ogystal i'r gwyliwr.Dathlwn wyliau traddodiadol y flwyddyn o'r Nadolig, y Flwyddyn Newydd, Calan Mai, Gwyl Ifan i'r Cynhaeaf a Chalan Gaea'.Dathlwn trwy ddawns a defod a chanu gwerin a cherdd dant.

Dawnswyr Nantgarw

Ffurfiwyd Dawnswyr Nantgarw ym 1980 dan hyfforddiant Eirlys Britton.  Rhieni ac athrawon Ysgol Gynradd Heol y Celyn, Pontypridd oedd yr aelodau gwreiddiol.  Erbyn hyn ehangwyd yr aelodaeth i fod yn un o dimau mwyaf llewyrchus Cymru, ond fe ddeil hi'n fwriad i ddod a dawnsio gwerin a'r diwylliant gwerin Cymreig yn ôl i gymoedd y Rhondda a Dyffryn Tâf.
Daeth llwyddiant cystadleuol i'r tim yn fuan gyda gwobrau cyntaf yn yr Wyl Ban Geltaidd yng Nghilairne ym 1983 ac 1985; gwobrau yn yr Wyl Gerdd Dant ym 1982, 1983 ac 1984.  Llwyddwyd i ennill tair gwobr gyntaf a dwy ail allan o bum cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun ym 1986 a'r brif gystadleuaeth eto'r flwyddyn ganlynol ym Mhorthmadog ym 1987.
Ond uchafbwynt yr holl gystadlu oedd y ddwy flynedd o 1989 i 1991.  Yn nhymor 1989 fe enillwyd y goron driphlig sef yr Wyl Gerdd Dant, Eisteddfod Gydwladol Llangollen a'r Eisteddfod Genedlaethol.  Dychwelwyd i Langollen ym 1990 a 1992 a dod yn ail ddwy waith.
Wedi ei lwyddiant ym Mhrydain, gwahoddwyd y grwp i gystadlu ym mhencampwriaethau'r byd yn Palma, Mallorca ym 1991 ac yno llwyddwyd i ennill ail wobr yn y categori y grwp gorau.  Dilynodd y rhaglen deledu gylchgrawn 'Hel Straeon' y grwp i Mallorca a cynhyrchwyd rhaglen ddeugain munud ar y daith fuddugoliaethus.  Yn wir maent yn ymddangos yn rheolaidd ar y teledu ar raglenni gwerin megis Teulu'r Tir a chyngherddau'r BBC o Neuadd Dewi Sant.
Mae aelodau o'r grwp yn enillwyr cenedlaethol hefyd, nid yn unig yn y cystadlaethau dawnsio a chlocsio unigol, ond hefyd yn y meysydd adrodd, cerdd-dant, canu gwerin a chanu'r delyn.
Ond nid ar gystadlu'n unig mae bryd y tim.  Maent yn cynnal twmpathau a chyngherddau yn gyson ar hyd a lled Cymru ac yn teithio dros glawdd Offa'n fynych i arddangos eu dawnsio i gymdeithasau Cymraeg.  Maent wedi ymddangos yn Neuadd Albert yn Llundain dair gwaith.

YR HET UCHEL
Difyr yw ceisio olrhain hanes yr het uchel Gymreig a cheir sawl esboniad am darddiad yr het arbennig hon a wneir o groen afanc neu'r twrch daear.Gwelwyd yr hetiau uchel cynharaf yn Lloegr a Ffrainc yn y 17 ganrif, ac fe'u hystyriwyd yn eitem ffasiynol hanfodol a ddefnyddiwyd i goroni ac i amddiffyn wigiau uchel y cyfnod. Roeddent yn ddrud iawn i'w cynhyrchu, ac felly'r crach yn unig fyddai'n eu gwisgo.Yn bell ar ol i'r ffasiwn farw dramor gwisgai'r gwragedd yng Nghymru yr het uchel ac erbyn heddiw nid yw'r wisg draddodiadol yn gyflawn hebddi.

Y SIOL GYMREIG
Gellir olrhain hanes y patrwm a adnabyddir fel "Paisley" yn ol mor bell a theyrnas Babylon, dros 2000 o flynyddoedd, ond ni chyflwynwyd y patrwm unigryw hwn i Ewrop tan y 18 ganrif pan y mewnforiwyd siolau sidan o Kashir. Gwerthfawrogwyd y patrwm fel cynllun egsotig a daeth yn boblogaidd yn gyflym a galw mawr amdanynt.Sut roedd hynny'n bosib mae'n anodd credu gan fod y sioliau, bryd hynny, werth £200 -£300; ond fel pob crefft, 'doedd y pris ddim yn adlewyrchu'r gwaith llafurus, gan y gallai gymryd cymaint a blwyddyn a hanner i gwblhau un siol. Gwelwyd potensial i gynhyrchu siolau yn y wlad hon gan wehyddwyr o dref Paisley yn yr Alban. Daeth y siol yn boblogaidd fel eitem ffasiwn, a bellach fe'i hadnabyddir fel rhan o'r wisg Gymreig.